Crochenwaith Llinell y Llanw
   HAFAN AMDANAF CYNNYRCH SIOP ENGLISH

AMDANAF FI:

Cychwynnais ar y daith o ddod yn grochenydd trwy fynychu dosbarthiadau yn ein canolfan celfyddydau lleol. Mynychais i'r dosbarthiadau am bum mlynedd, o'r bron, ond wedi i'r tiwtor ymadael rhoddais y ffidil yn y tô. Ymhen tipyn, fodd bynnag, gwelais eisiau'r grefft - y teimlad o weithio'r clai a pha mor ystyfnig y medr fod. Yn fwy na dim, gwelais eisiau'r teimlad o foddhad ar ôl creu rhywbeth y gwyddwn iddo fod yn dda.

O'r diwedd, prynais olwyn ail law ac odyn fechan a'u gosod yn ein cartref. Fedra i ddim gweithio ar y grefft yn llawn amser ond - pwy a ŵyr - efallai y daw hynny i fod rhyw ddydd...

Yr ysbrydoliaeth ar gyfer pob un darn o'm darnau crochenwaith yw lliwiau’r môr, y tywod, creigiau a'r gro, y broc môr ac amgylchedd ein traethau lleol yma yng Ngheredigion. Dyma liwiau, wrth gwrs, sy'n amrywio gydag oriau'r dydd, y tywydd a’r tymhorau. 'Dwi'n eu mwynhau wrth gerdded ein ci - Murphy (olynydd Paddy) - yn ddyddiol.

Mae pob un darn o grochenwaith Llinell y Llanw naill ai wedi ei daflu â llaw neu wedi ei droi ar yr olwyn – ambell dro cyfunaf y ddau ddull.


                               


Cynnyrch

Crochenwaith Llinell y Llanw
Llanrhystud,
Ceredigion, SY23 5DQ

Danfonwch Ebost

 © 2021 - Hawlfraint Crochenwaith Llinell y Llanw